SL(6)268 – Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022
Cefndir a diben
Mae'r Rheoliadau
hyn yn diwygio Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a
Chyfraddau Treth) (Cymru) 2018 er mwyn mewnosod bandiau treth a
chyfraddau treth canrannol diwygiedig ar gyfer trafodiadau eiddo
preswyl.
Mae’r tabl isod yn nodi’r bandiau a’r cyfraddau
diwygiedig:
Band treth |
Y gydnabyddiaeth berthnasol |
Cyfradd ganrannol y dreth |
Band cyfradd sero |
Nid mwy na £225,000 |
0% |
Y band treth cyntaf |
Mwy na £225,000 ond dim mwy na £400,000 |
6% |
Yr ail fand treth |
Mwy na £400,000 ond dim mwy na £750,000 |
7.5% |
Y trydydd band treth |
Mwy na £750,000 ond dim mwy na £1,500,000 |
10% |
Y pedwerydd band treth |
Mwy na £1,500,000 |
12% |
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu, pan fo’r dyddiad dod i rym ar gyfer trafodiad yn disgyn ar 10 Hydref 2022 neu ar ôl hynny, ond bod contractau wedi’u cyfnewid neu fod y contract hwnnw wedi’i gyflawni’n sylweddol cyn 10 Hydref 2022, y caiff y prynwr ddewis cymhwyso’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol perthnasol a oedd yn eu lle cyn i’r newidiadau ddod i rym (yn amodol ar rai esemptiadau).
Gweithdrefn
Gwneud cadarnhaol.
Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Rhaid i'r Senedd gymeradwyo'r Rheoliadau o fewn 28 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd wedi’i diddymu neu ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gwnaed er mwyn iddynt barhau i gael effaith.
Materion technegol: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:
1. Rheol Sefydlog 21.3(i) - ei fod yn codi tâl ar Gronfa Gyfunol Cymru neu ei fod yn cynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i daliadau gael eu gwneud i’r Gronfa honno neu i unrhyw ran o’r llywodraeth neu awdurdod lleol neu gyhoeddus er mwyn cydnabod unrhyw drwydded, cydsyniad neu unrhyw wasanaethau sydd i’w rhoi, neu ei fod yn rhagnodi swm unrhyw dâl neu daliad o’r fath.
Mae adran 25 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 yn nodi bod yn rhaid i Awdurdod Cyllid Cymru dalu symiau a gesglir wrth arfer ei swyddogaethau i Gronfa Gyfunol Cymru.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio bandiau treth a chyfraddau treth canrannol ar gyfer trafodiadau eiddo preswyl sy'n ddarostyngedig i dreth trafodiadau tir a gesglir gan Awdurdod Cyllid Cymru.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
17 Hydref 2022